Ysgol Llys Hywel

	
		
	
	
	

Croeso i ein hysgol

Yn Llys Hywel, rydyn ni’n deall pa mor hanfodol bwysig yw dewis yr ysgol gywir ar gyfer eich plentyn.  Mae rhieni a gwarchodwyr yn disgwyl addysg dda i’w plant, ond hefyd am iddyn nhw deimlo’n hapus ac yn ddiogel.  Rydym yn ymdrechu i gynnig hyn i gyd yn Llys Hywel. Un o’n prif nodau yw sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau ei amser yn yr ysgol, mewn amgylchedd diogel mae meithrin unigolion hyderus, llwyddiannus, a gofalgar sy’n gallu cyfrannu at y gymuned o’u cwmpas. 

Yn ogystal â’r prif adeilad hanesyddol, mae gennym hefyd neuadd ysgol fodern ac ystafelloedd dosbarth ychwanegol.  Rydym yn ffodus o gael amrywiaeth eang o gyfleusterau awyr agored sy’n caniatáu i’r plant ddysgu drwy chwarae ac archwilio.

Mae Llys Hywel yn darparu addysg  dwy ffrwd i blant rhwng 4 ac 11 oed.
Ffrwd Cymraeg – Derbyn i Flwyddyn 6 Ffrwd Saesneg  – Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6

(o flynyddoedd 3 ymlaen, cynigir dewis i rieni/gwarcheidwaid naill ai addysgu drwy’r Ffrwd Gymraeg neu addysg Ffrwd Saesneg i’w plentyn)

Archwiliwch ymhellach i ddod i adnabod ein hysgol.  Mae gennym bolisi drws agored felly, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.


Dilynwch y linc er mwyn cofrestru eich plentyn i’n hysgol ni: