Gwybodaeth

Yr agwedd bwysicaf yng ngwaith a bywyd Ysgol Llys Hywel yw sicrhau diogelwch a lles ein disgyblion. Os oes gennych bryder ar unrhyw adeg am les a diogelwch ein plant dewch i siarad gyda ni yn syth. Swyddogion amddiffyn plant yr ysgol yw Mrs V Roberts a Mrs C Thomas. Os hoffech siarad gyda rhywun tu allan i’r staff cysylltwch gyda Cllr Sue Allen, llywodraethwraig a chyfrifoldeb, neu siaradwch yn syth gyda’r heddlu.

Am wybodaeth manwl am fywyd a gwaith Ysgol Llys Hywel, lawrlwythwch ein llawlyfr:

Llawlyfr Llys Hywel

Amser Ysgol 

Babanod – 8:45yb – 3:10yp 

Iau – 8:45yb – 3:20yp

Cliciwch yma am wybodaeth ynglyn a gwyliau ysgol 

Cinio Ysgol 

£2.50 y dydd / £12.50 yr wythnos 

Cliciwch yma ar gyfer y fwydlen

Os ydych eisiau gwneud cais neu angen fwy o wybodaeth am Ginio Ysgol am Ddim, dilynwch y linc uchod am yr opsiwn.  

Clwb Brecwast Am Ddim 

Mae yna Glwb Brecwast am ddim yn rhedeg bob bore rhwng 8.00 a 8.45y.b. A wnewch chi gwblhau ffurflen os hoffech i’ch plentyn fynychu’r clwb. Cliciwch ar y linc Cinio Ysgol i gael fwy o wybodaeth. 

Clwb Carco Sbri-Ni/Clwb Gwyliau 

Gweler y dudalen Clybiau am fwy o wybodaeth.  

Gwisg Ysgol

Siwmper Werdd Emrallt 

Crys Polo Coch 

Merched – Trowsus, ‘leggings’, sgert neu ffrog ddu 

Bechgyn – Trowsus du 

Esgidiau du

Gwisg Haf i Ferched – Ffrog Haf Werdd