Rheolau'r Ysgol


Ein Rheolau Ysgol
Cafodd ein rheolau eu creu o ‘Gyfreithiau Hywel Dda’  

Perthyn
Rydym i gyd yn perthyn i Gymuned yr Ysgol.
Rydym yn parchu’n hysgol, staff, ymwelwyr a ni’n gilydd. 

Cydraddoldeb
Mae pawb yn wahanol.
Ond mae gan bawb yr un hawl i’r un parch a’r cyfleoedd. 

Cytundeb
Addawn i fod yn garedig i’n gilydd a pharchu ein hysgol. 

Rhagoriaeth
Ymdrechen bob amser i fod y gorau gallwn.

Parch
Rydym yn edrych ar ol ein hysgol a’i thrin gyda gofal a pharch. 

Tegwch
Byddwn yn deg ym mhob agwedd o fywyd ysgol. 

Aethom i Ganolfan Hywel Dda yn Hendygwyn i ddysgu am y cyfreithiau. Dyma ni yn ail-greu hanes Hywel Dda.